Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
CLA162 - Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Trosi o fod yn Fwrdd Gweithredol Interim) (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed ar:22 Mehefin 2012.
Fe’u gosodwyd ar:26 Mehefin 2012.
Yn dod i rym ar:1 Medi 2012
CLA163 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed ar: 26 Mehefin 2012.
Fe’u gosodwyd ar: 28 Mehefin 2012.
Yn dod i rym ar: 1 Medi 2012
CLA164 - Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Bae Abertawe (Thomas Shellfish Limited) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed ar: 27 Mehefin 2012.
Fe’u gosodwyd ar: 29 Mehefin 2012.
Yn dod i rym ar: 18 Medi 2012
CLA165 - Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Hysbysiadau) (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed ar: 28 Mehefin 2012.
Fe’u gosodwyd ar: 29 Mehefin 2012.
Yn dod i rym ar: 20 Medi 2012
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
Dim
Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
Dim
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
Dim
Unrhyw fater arall
Ymchwiliadau'r Pwyllgor: Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Alan Trench, Cymrawd Anrhydeddus, Ysgol Gwyddoniaeth Gymdeithasol a Gwleidyddol, Prifysgol Caeredin.
Penderfyniad i gyfarfod yn breifat
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi), penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod y dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yma ynghylch yr ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru ac i ystyried yr Adroddiad Drafft ar Fil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
9 Gorffennaf 2012